Skip to main content

You are here

Etholiad Cyffredinol Cymru: Atal

Yn anffodus, nid oes modd trin cyflyrau anadlu hirdymor ar hyn o bryd. Yn lle hynny, rhoddir triniaeth a meddyginiaeth ar bresgripsiwn i gleifion reoli eu symptomau neu arafu datblygiad eu cyflwr, sydd yn golygu bod atal yn bwysicach fyth.


Pan fydd pobl yn meddwl sut orau i atal clefyd yr ysgyfaint, gwelir yn aml mai rhoi’r gorau i ysmygu yw’r prif beth y gall pobl wneud. Er hynny, ni fydd hyn, ar ei ben ei hun, yn atal pob clefyd ar yr ysgyfaint. Mae’r cartrefi rydym yn byw ynddynt, yr aer a anadlwn, y swyddi a wnawn a’r ymarfer corff sydd ar gael i ni, i gyd yn chwarae rhan bwysig mewn atal gwaeledd yr ysgyfaint.

Mae llygredd aer tu allan yn lladd: ni ddylai ysgyfaint y Cymru dalu

Nid oes yr un lefel o lygredd aer yn ddiogel. Llygrydd aer yw unrhyw sylwedd yn yr aer allai niweidio pobl. Mae mater gronynnol (PM), a nitrogen deuocsid yn arbennig o niweidiol.

Pan ddaw pobl i gysylltiad â lefelau llygredd uchel, er enghraifft ar ffordd brysur neu pan fydd llygredd ar ei uchaf, maent yn anadlu’r defnyddiau gwenwynig hyn i mewn i’w hysgyfaint. Ar y cychwyn, bydd llawer o bobl yn cael symptomau yn syth bin, fel llid yn y llwybrau anadlu, teimlo’n fyr o wynt a phesychu.

Mae pobl sydd â chyflwr ar eu hysgyfaint yn dioddef llawer mwy pan fydd lefelau llygredd aer yn uchel. Gall tocsinau fel hyn waethygu symptomau, fel pwl o asthma neu bwl o COPD. Efallai bydd pobl sydd ag asthma yn sylwi bod angen iddynt ddefnyddio eu hanadlydd lleddfu yn fwy na’r arfer pan fydd llygredd yn uchel.

Mae ansawdd aer gwael wedi’i gysylltu ag amryw o gyflyrau. Mae mwy a mwy o dystiolaeth sydd yn dangos sut mae lefelau llygredd aer uchel yn effeithio ar bob haen mewn cymdeithas drwy godi’r siawns o gael canser yr ysgyfaint, asthma mewn plentyndod, camesgoriad, genedigaethau buan/pwysau geni isel, clefyd y galon, dementia, materion iechyd meddwl, gordewdra, a llawer o gyflyrau eraill.

Llygredd aer yw’r bygythiad amgylcheddol mwyaf sylweddol i iechyd y cyhoedd. Am gost o £1bn y flwyddyn i’r GIG, mae llygredd aer yn dreth ar ein hadnoddau, yn straen ar ein system iechyd, ac yn cwtogi mwy na 2000 o fywydau yng Nghymru pob blwyddyn. Mae’n argyfwng i iechyd y cyhoedd.

Cyflawni Deddf Aer Glân yn y can diwrnod cyntaf


Mae Asthma + Lung UK Cymru yn galw am i ganllawiau newydd Sefydliad Iechyd y Byd gael eu cynnwys yn y Ddeddf Aer Glân newydd cyn gynted â phosibl. Gwelodd Coleg y Brenin Llundain y byddai cwtogi dim ond un rhan o bump ar lygredd aer yn ninasoedd mwyaf llygredig y DU yn lleihau nifer achosion canser yr ysgyfaint o 5–8%.

Mae Asthma + Lung UK Cymru yn galw am Ddeddf Aer Glân newydd i:

  • Gynnwys canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd mewn cyfraith.
  • Gorchymyn Llywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth ansawdd aer strategol pob pum mlynedd.
  • Rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a gweithredu yn ei erbyn.
  • Cyflwyno “hawl i anadlu” ble mae rheidrwydd ar awdurdodau lleol i roi gwybod i grwpiau bregus pan fydd lefelau neilltuol yn torri’r canllawiau a argymhellir.

Sefwch i fyny dros ysgyfaint Gymru trwy gefnogi yr addewid hwn:

Rwy'n credu bydd rhaid i'r Senedd nesaf gweithio i basio Deddf Aer Glân i Gymru fel y gallwn ni i gyd anadlu aer glân trwy ysgyfaint iach.

Rhoi diwedd ar lygredd yn ei fan cychwyn


O safbwynt mynd i’r afael â llygredd aer, mae mwy iddi na lleihau allyriadau o gerbydau.

Mae Asthma + Lung UK Cymru yn galw am:

  • I Gymru fod y wlad gyntaf yn y DU i hyrwyddo gwaharddiad ar werthu ceir disel newydd erbyn o leiaf 2025, a chodi tâl allyriadau ar y cerbydau sydd yn llygru fwyaf yn y trefi mwyaf a’r dinasoedd.
  • Mwy o fuddsoddi sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio actif, gan gynnwys cyflawni prosiect Metro De Cymru ac ymestyn y rhwydwaith beicio.
  • Cynllun uchelgeisiol i fod ar waith i gynyddu’r rhwydwaith gwefru ceir trydan ac edrych eto ar y dewisiadau eraill o ran tanwydd fel hydrogen. Er mwyn i Gymru fod yn barod i fod heb ddisel/petrol erbyn 2030, cefnogi nod Llywodraeth y DU i wahardd gwerthu ceir disel a phetrol yn gyfan gwbl erbyn 2035.
  • Cynllun sgrapio cyfansawdd i helpu pobl gael ffyrdd glanach o deithio yn hytrach na cheir disel a phetrol.
  • Gweithredu i fynd i’r afael â gadael injan ceir i droi.
  • Cyflwyno parthau gwahardd wrth ymyl ysgolion, a’r ysbytai a’r darparwyr gofal iechyd mwyaf.
  • Adolygu parthau rheoli ysmygu i wahardd gwerthu stofiau llosgi coed aneffeithlon a’r tanwyddau domestig sydd yn llygru fwyaf.
  • Ymgyrch Ymwybyddiaeth Iechyd y Cyhoedd i helpu’r cyhoedd wneud dewisiadau da er lles eu hiechyd ac hefyd er lles iechyd eraill, ein planed a chenedlaethau’r dyfodol.

Cefnogi gweledigaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael Cymru ddi-nicotin

Ysmygu cynhyrchion tybaco yw’r un peth mwyaf sydd yn achosi gwaeledd y gellir ei osgoi, ac sydd yn
achosi cryn anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru. Mae cysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol rhwngdibyniaeth ar dybaco â miliynau o farwolaethau.

Mae Cymru ar y trywydd i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i leihau cyfraddau ysmygu ymysg oedolion o 16% erbyn 2020, ond nid oes targedau pellach i leihau’r niferoedd tu hwnt i hynny.

Gall e-sigaréts fod yn ddefnyddiol i roi’r gorau i ysmygu. Felly, mae’n hanfodol bod gwybodaeth wrth law am e-sigaréts, a sut i’w defnyddio i roi’r gorau iddi, i bobl sydd yn ysmygu ac i weithwyr proffesiynol gofal iechyd hefyd. Rhaid bod sail dystiolaeth i’r wybodaeth honno. Rydym yn parhau i edrych ar effeithiau hirdymor e-sigaréts ar iechyd, a byddem yn argymell bod pobl yn eu defnyddio am gyn leied o amser â phosibl i’w helpu nhw roi’r gorau i ysmygu. Er hynny, mae angen gorfodi rheoliadau ar sut y gellir hysbysebu e-sigaréts, a sicrhau na all cynnyrch apelio at bobl ifanc yn benodol.

Mae Asthma + Lung UK Cymru yn galw am:

  • Strategaeth ysmygu a thybaco newydd, gyda tharged i gael cenedl ddi-fwg erbyn 2030 (5% neu lai o’r boblogaeth yn ysmygu).
  • Gwahardd ysmygu yn gyhoeddus ar strydoedd fawr Cymru.
  • Codi’r oedran cyfreithlon isaf i brynu cynhyrchion tybaco yng Nghymru i 21.
  • Adolygu cydymffurfiaeth a gorfodaeth o safbwynt hysbysebu tybaco a deddfau gwahardd, er mwyn rhoi cosbau ariannol trymach i gwmnïau sydd yn torri deddfau hysbysebu cynhyrchion tybaco.
  • Mae hyn er mwyn lleihau’r effaith a gaiff gwerthu cynhyrchion tybaco yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
  • Ymholiad seneddol i roi’r gorau i ysmygu a rheoli tybaco yng Nghymru.
  • Cymorth parhaus gwasanaethau “Helpa Fi i Stopio’’ a ddarperir gan GIG Cymru ac arian i hybu’r gwasanaethau a’r ymgyrchoedd ar gyfer rhoi’r gorau iddi.
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu arweiniad annibynnol ar ffurf taflenni i ysmygwyr sydd yn dewis fepio yn lle ysmygu; yn pwysleisio mai yn y tymor byr y dylid eu defnyddio i roi’r gorau iddi, yn tynnu sylw at wasanaethau “helpa fi i stopio” ac yn gofyn i werthwyr e-sigaréts ddangos yr arweiniad hwn yn eu holl siopau ar draws Cymru ac ar-lein.
  • Mwy o ymchwil i effaith hirdymor defnyddio e-sigaréts ar ysgyfaint pobl sydd â chyflwr ar yr ysgyfaint, yn enwedig asthma.

Darllen Nesaf: Sut gallwn ni wella ddiagnosis yr ysgyfaint