BLF Cymru
Mae gennym dîm arbenigol yng Nghymru a’r Alban sy’n gweithio i bawb y mae cyflwr yr ysgyfaint yn effeithio arnynt, ar draws y cenhedloedd.
Mae rhai o feddygon anadlu gorau’r byd i’w cael yma yng Nghymru a’r Alban. Y gwledydd hyn sy’n aml yn arwain y ffordd gyda mentrau iechyd y cyhoedd, fel gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus.
Mae cyfradd clefyd yr ysgyfaint ymysg yr uchaf yn y byd yma. Hanes diwydiannol, a lefelau ysmygu uchel sydd i gyfrif am hyn. Dyma ble rydym ni’n helpu.
Beth ydym ni’n ei wneud
- Rydym yn cefnogi pobl sydd â chlefyd ar eu hysgyfaint, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
- Rydym yn codi ymwybyddiaeth o glefyd yr ysgyfaint, yn lleol ac yn genedlaethol.
- Rydym ni’n ymgyrchu i ofalu bod clefyd yr ysgyfaint yn flaenoriaeth genedlaethol.
- Rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill, fel grwpiau gwirfoddol, y GIG, Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, i wella gwasanaethau ar draws y cenhedloedd.

Ein dylanwad
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi cyflawni cymaint er budd iechyd yr ysgyfaint.
- Gwahardd ysmygu mewn llefydd cyhoeddus, sy’n amddiffyn plant rhag mwg ail law
- Gwella gwasanaethau ocsigen, fel bod ocsigen ar gael yn haws i bobl y mae arnynt ei angen
- Gwella’r ddarpariaeth ar gyfer rhaglenni adsefydlu i gleifion yr ysgyfaint
- Triniaethau newydd a mwy o sylw i glefydau interstitaidd yr ysgyfaint, fel Ffibrosis Idiopathig yr Ysgyfaint
- Cyfrannu at ddatblygu Cynllun Cyflawni Iechyd yr Ysgyfaint yng Nghymru
- Gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol i ffurfio Tasglu ar gyfer Iechyd yr Ysgyfaint yn yr Alban
- Llunio rhaglen hunan reoli i bobl sydd â ffurf gymedrol ar glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) yng Nghymru
- Ymestyn grwpiau canu’n iach i’r ysgyfaint ar draws y cenhedloedd
Dyfyniad gan Joseph a llun

Joseph Carter yw Pennaeth y Cenhedloedd Datganoledig
"Mae cyflyrau’r ysgyfaint yn effeithio ar gymaint o bobl, ond eto nid yw’r wybodaeth amdanynt na’r diagnosis ohonynt yn dda iawn. Mae’r British Lung Foundation yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol, gweithwyr sifil a gwleidyddion i sicrhau bod pobl sydd â chyflwr ar eu hysgyfaint, a’u teuluoedd, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.”
Cysylltwch
Yr Alban
Gallwch gysylltu â’n swyddfa yn yr Alban drwy ffonio 0141 248 0050
Ysgrifennwch at y British Lung Foundation, Suite 103-104, Baltic Chambers, 50 Wellington Street, Glasgow, G2 6HJ
Twitter @BLFScotland
Cymru
Gallwch gysylltu â’n swyddfa yng Nghymru drwy ffonio 0300 030 555
Ysgrifennwch at y British Lung Foundation, Tŷ Regus, Falcon Drive, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 4RU
Twitter @BLFWales